Os ydych chi’n creu perfformiad neu’n adnabod rhywun sy’n cynhyrchu perfformiadau, yna bydd y cyfle yma o ddiddordeb i chi.
Mae Deori yn llwyfan sy’n rhoi cyfle i artistiaid a chwmnïoedd ddatblygu a rhannu syniadau wrth creu neu ehangu ar waith newydd. Gall artistiaid a chwmnïoedd ddatblygu a perfformio’r darn o fewn gofodau Canolfan Mileniwm Cymru.
Mae Deori ar agor i artistiaid a chwmnïoedd sy’n gweithio drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg a’r Saesneg mewn theatr, dawns, syrcas, gwaith mewn safle penodol a chelf ddigidol ac ar-lein.
Rydyn ni ar hyn o bryd yn derbyn ceisiadau ar gyfer ein perfformiad Deori nesaf, fydd yn cael ei gynnal ym mis Mawrth 2014.
Os ydych chi’n edrych am fannau, cyngor, cefnogaeth dechnegol neu rywle i chi fwrw eich bol gyda’ch syniadau a pherfformio o flaen cynulleidfa, yna rydyn ni eisiau clywed gennych chi!
I gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan a dod yn aelod o gwmnïoedd Deori 2014, anfonwch e-bost at Fern George, fern.george@wmc.org.uk
You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!
Join National Theatre Wales Community