Ganed Cymuned NTW gyda National Theatre Wales. Aeth ar-lein fel gofod digidol arloesol, bywiog lle gallai pobl gysylltu - roeddem yn meddwl amdano fel ein dull digidol cyfatebol o leoliad. Gallai gwneuthurwyr theatr, artistiaid, cynulleidfaoedd, actifyddion, TEAM ac aelodau o’r gymuned – unrhyw un oedd eisiau bod yno – ymuno, rhannu a thrafod syniadau, gofyn cwestiynau a chyngor neu siarad am eu gwaith.
Yn y blynyddoedd diwethaf, wrth i oes y cyfryngau cymdeithasol gydio yn y ffordd yr ydym yn rhannu ac yn cyfathrebu ar-lein, rydym wedi gweld newid yn y defnydd o'r wefan. Y dyddiau hyn mae'n tueddu i weithredu fel hysbysfwrdd ar-lein sydd ynghlwm wrth ein gwefan.
Rydyn ni i gyd yn gwybod am y camau enfawr y mae gofodau a llwyfannau digidol wedi’u gwneud ers i Gymuned NTW lansio dro ddegawd yn ôl. Heb sôn am y newid enfawr yn y ffordd y mae cynulleidfaoedd yn ymgysylltu â gwaith ac anghenion artistiaid a gwneuthurwyr theatr. Felly, y llynedd fe wnaethom wahodd gwneuthurwyr theatr i ymuno â ni ar gyfer cyfres o ymgynghoriadau ledled Cymru ac ar-lein i siarad am ddyfodol cysylltiad digidol.
Dangosodd eu hadborth nad Cymuned NTW yw’r arf mwyaf effeithiol bellach ar gyfer cysylltiad digidol rhwng artistiaid, cynulleidfaoedd a chymunedau, felly rydym wedi penderfynu cau’r dudalen ar 20 Mai.
Mae yna lawer o ffyrdd o hyd y gallwch chi gysylltu â ni ac ag eraill:
Diolch am fod yn rhan o Gymuned NTW ac edrychwn ymlaen at gadw mewn cysylltiad.
© 2024 Created by National Theatre Wales. Powered by
You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!
Join National Theatre Wales Community