Y mae Cynhyrchiadau Leeway yn chwilio am 10 o berfformwyr sydd yn gallu canu, ac sydd ag awydd i fod yn rhan o'n prosiect 'Sioeau Cerdd Cwta' nesaf mewn partneriaeth a The Other Room a'r Eisteddfod Genedlaethol.
Mi fydd tal at gael at gyfer y perfformiad yn yr Eisteddfod a cyfle i fod yn rhan o'n sioeau 'Best Of' a tal ynghlwm a'r rhain hefyd.

Mi fyddwch yn rhan annatod o'r broses greadigol, yn cyd weithio gyda sgwennwyr a chyfansoddwyr i greu Sioeau Cerdd newydd ac yna yn cael y cyfle i'w perfformio yn The Other Room ac yn Theatr y Maes, Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Mae hyn yn gyfle gwych i fod yn rhan o greu gwaith newydd yng Nghymru ac yn gyfle da i feithrin hyder pan yn ymdrin a'r cyfnod datblygu a sut i drin gwaith newydd. Mae hi hefyd yn gyfle gwych i gwrdd ag artistiaid newydd ac i rhwydweithio ymysg eich gilydd.
Dyddiadau y brosiect at gael at waelod y dudalen.
Danfonnwch CV neu ychydig am eich hun, ac os oes modd, linc bach ohonoch yn canu i leewayprods@gmail.com
Mae hyn er mwyn neud yn siwr ein bod yn eich partneri chi gyda'r artistiaid cywir.
Dyddiad cau: 30 o Fehefin 2017
Dyddiadau:
Gweithdy 1
|
Gorffennaf 30ain
|
10:00 – 17:00
|
The Other Room
|
Gweithdy 2 – sy’n cynnwys rhannu gwaith
|
Awst 6ed
|
10:00 – 18:00
18:00 – rhannu gwaith
|
The Other Room
|
Rhannu’r gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol
|
Awst 10fed
|
16:00 – 17:00
|
Theatr y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017
|
You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!
Join National Theatre Wales Community