GWAHODDIAD I Gynhadledd Sipsiwn, Roma a Theithwyr LHDTRhQ

Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd,  Caerdydd CF99 1NA

Dydd Iau 4 Gorffennaf 2019 o 18.00pm tan 20.00pm

Bydd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn agor y noswaith

Mae Cwmni Diwylliant a Chelf Romani yn falch o'ch gwahodd i Gynhadledd Sipsiwn, Roma a Theithwyr LHDTRhQ. Cynhelir y digwyddiad yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac ymhlith y prif siaradwyr bydd Dr Daniel Baker (Lloegr) a Christine Lee (Cymru) ynghyd â gwesteion eraill, gan gynnwys Vera Kurtic (Cyngor Ewrop/Serbia) a Dezso Mate (Hwngari). Bydd yr amrywiaeth siaradwyr â gwahanol feysydd arbenigedd yn ysgogi'r drafodaeth ynghylch materion LHDTRhQ mewn perthynas â Sipsiwn, Roma a Theithwyr fel unigolion a chymunedau.

Mae'r digwyddiad yn un o nifer y mae Cwmni Diwylliant a Chelf Romani yn eu cydgysylltu ar hyn o bryd. Mae'n gyffrous ein bod yn gallu rhoi llwyfan a llais i 'leiafrif o fewn lleiafrif'. Mae'r gynhadledd Sipsiwn, Roma a Theithwyr LHDTRhQ hon yn gyfle unigryw i gymryd rhan mewn trafodaeth gyda phanel rhyngwladol o siaradwyr a fydd yn eich ysbrydoli.

Dywedodd Dr Daniel Baker, artist, curadur ac academydd o’r gymuned Romani: "Mae trafod arwyddocâd hunaniaethau sy'n croestorri yn bwysicach nag erioed. Drwy gydnabod yr hyn sy'n gyffredin ar draws gwahaniaethau o ganlyniad i brofiadau a gwybodaeth gyffredin rydyn ni'n symud yn nes at gymdeithas fwy gofalgar."

Dywedodd Isaac Blake, Cyfarwyddwr Cwmni Diwylliant a Chelf Romani: "Ni all cymdeithas agored, oddefgar ddewis a dethol pa grwpiau sy'n haeddu goddefgarwch a dealltwriaeth. Mae pob unigolyn sy'n byw ar ein planed hardd yn haeddu cael ei farnu ar sail ei eiriau a'i ymddygiad ei hun; nid ar ei hil, ei genedl, ei grefydd, ei rywioldeb na'i gefndir teuluol. Safwn gyda'n gilydd ac ymfalchïo yn yr amrywiaeth anhygoel o fewn y ddynol ryw."

Dywedodd Christina Lee, Hyrwyddwr Cymunedol Cwmni Diwylliant a Chelf Romani: "Nid yw newid ystyrlon am ddod i gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr LHDTRhQ drwy gael rhagor o wybodaeth yn unig, ond yn hytrach drwy wneud rhywbeth â'r wybodaeth."

Dywedodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: "Rydw i'n falch o gefnogi'r Cwmni gyda'u Cynhadledd ar LHDTRhQ o fewn y gymuned  Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn ystod mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Bydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol nesaf Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd deall y croestoriad rhwng gwahanol nodweddion gwarchodedig. Bydd digwyddiadau fel hyn yn helpu i ddarparu platfform ar gyfer sgwrsio a dylanwadu ar bolisi ar lefel genedlaethol, gan ddarparu sicrwydd i bob cymuned fod Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i sicrhau bod cydraddoldeb wrth wraidd ein busnes, bod amrywiaeth yn cael ei ddathlu ac nad oes lle i wahaniaethu yn erbyn pobl."

Views: 93

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service