Helo ers talwm - mae heddiw'n ddiwrnod Pethau Bychain, sydd wedi f'atgoffa i bod hi'n hen bryd sgwennu ar fy mlog eto.

(Mae enw'r ymgyrch yn dod - dwi'n meddwl - o eiriau Dewi Sant: "gwnewch y pethau bychain". Cyngor da ym mhob cyswllt - diolch Dewi!)

Mae'r Twit-fyd wedi bod yn parablu drwy'r dydd fel rhan o'r ymgyrch i ddathlu a defnyddio mwy o'r Gymraeg ar y we. Rhaid i mi gyfadde bod hi wedi bod yn ddiwrnod araf yn y swyddfa tra mod i'n darllen popeth sydd wedi'i uwchlwytho, ond ta waeth - ypdêt cyflym i chi ar y pethau bychain dwi wedi bod wrthi yn ddiweddar.

  • Wythnos lwyddiannus iawn yng Nghaeredin, wedi gwylio mwy o sioeau nag erioed o'r blaen. Un o'r uchafbwyntiau oedd gweld sioe gomedi Elis James (sydd â chydig o Gymraeg ynddi) o'r diwedd. Cymro doniol iawn yn wreiddiol o Gaerfyrddin, llawn straeon gwych (mae'r un am Reginald D Hunter yn hoot). Mae Elis yn perfformio yn y Glee Club yng Nghaerdydd heno, os oes rhywun ag awydd am laff.
  • Bore ar ôl i mi gyrraedd adre, off a fi ar fy meic i ddarllen rhai o straeon mwy rhyfedd y tabloids yng nghymni Dafydd a Charyl (ie, ie, dim treiglo enwau) ar Radio Cymru. Pleser bob tro.
  • Nôl yn swyddfa National Theatre Wales, paratoadau mawr tuag at y cynhyrchiadau nesaf - Love Steals us from Loneliness ym Mhenybont ym mis Hydref (Nia Roberts ymysg y cast!); The Dark Philosophers yng Nghasnewydd a Wrecsam ym mis Tachwedd, a The Weather Factory ym Mhenygroes, Gwynedd (nid Pen-y-groes, Sir Gaerfyrddin - pwysig iawn)
  • Mi fydd Michael Sheen (uchod) yn dod i'n Diwrnod Agored ni ym Mhort Talbot ar ddydd Iau, 9fed o Fedi, 11am-canol dydd, yn y Clwb Cymdeithasol & Llafur Glanmôr, Ffordd Dalton. Cyfle i drigolion Port Talbot glywed mwy am y cynhyrchiad Passion (fydd Michael yn cyfarwyddo a pherfformio ynddi), a gwirfoddoli eu sgiliau creadigol i fod yn rhan o'r sioe.
  • Mae gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd yn edrych yn un addawol dros ben unwaith eto - 21-23 Hydref. Pob lwc i Huw a'i griw!
A dyna ni. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at Mardi Gras Caerdydd fory - wela i chi yna falle? Hwyl am y tro!

Views: 226

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

Comment by Catrin Rogers on September 3, 2010 at 4:59
Ti ddim yn meddwl bod nhw'n debyg?
Comment by Carl Morris on September 3, 2010 at 4:31
Chwarae teg ond beth sy'n digwydd gyda'r delwedd BP?

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service