Dydd Mawrth 20 Mawrth 2012
Cwmni Living Pictures mewn cydweithrediad â Theatr Genedlaethol Cymru a Sherman Cymru
CWRS HYFFORDDI CYFARWYDDWYR 2012/13 (Rhan - amser)
Arbennigedd : Ysgrifennu newydd i'r llwyfan
Ym mis Medi 2012 bydd Cwmni Living Pictures yn cychwyn cwrs cyfarwyddo ar gyfer tri chyfarwyddwr newydd Cymraeg eu hiaith.
Pwrpas y cwrs fydd i roi sgiliau sylfaenol mewn dadansoddi testun, dealltwriaeth o ddatblygiad cymeriad a stori, gweithio gydag awdur a thîm creadigol profiadol, ymchwilio dulliau llwyfanu a chynllunio i lwyfannau aml-faes a dysgu sgiliau marchnata.
Fe fydd Theatr Genedlaethol Cymru yn cominsiynnu tri awdur profiadol i weithio law yn llaw gyda'r cyfarwyddwyr a Sherman Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru yn cynhyrchu y gwaith ym mis Medi 2013.
Athrawon gwadd ymysg eraill fydd y gwneuthuriwr theatr Marc Rees a chyfarwyddwr ysgrifennu newydd y Royal Court, Sacha Wares.
Os am ymgeisio am le, danfonwch eich CV a llythyr yn egluro pam yr hoffech
fynychu y cwrs at Tom Hughes yn livingpictures@btopenworld.com.
Rydym yn chwilio am gyfarwyddwyr sydd â lleisiau unigryw sydd a diddordeb mewn ysgrifennu newydd.
Dyddiad Cau fydd Dydd Iau 05 Ebrill 2012 .
Ariannwyd y cwrs gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!
Join National Theatre Wales Community