Hi everyone.

We're really excited to have announced our 2018 yesterday! It's Artistic Director Kully Thiarai's first full season and the focus is People and Places. You can read all about it here

We are of course looking forward to collaborating with some amazing performers throughout the year. Remember that our casting breakdowns are always shared here first and do get in touch if you have any questions about a role or show. 

Here's the breakdown for STORM 2, please share it far and wide and keep your eyes open for another 2018 opportunity coming soon. 


Also, we're delighted to be recruiting for a Casting Associate who will take their post in the new year, strengthen our relationship with actors in Wales and beyond and make our casting more exciting and inclusive than ever. 
The job description is here - get it out there. 

Thanks!

CASTING BREAKDOWN

STORM 2: THINGS COME APART

 

Theatre-makers Mike Pearson & Mike Brookes, who have created some of National Theatre Wales’ most critically-acclaimed work to date begin an extraordinary, three-year collaboration with NTW in 2018.

 

The Storm Cycle will be a series of six productions conceived, designed and directed by Pearson & Brookes. These multimedia works will be performed at different locations across Wales, at a variety of scales and sizes, and will explore two key themes; truth and testimony. They will culminate in 2020 with the creation of a major, new, large-scale production for NTW’s 10th anniversary programme.

 

There is a storm coming…

We live in tempestuous times: an era of climatic and environmental uncertainty and of

social and political upheaval. Perhaps it was always so.

But what new forms can theatre develop and adopt: to engage with and to reflect the temper of our times?

An urgent theatre: fit for purpose, addressing and expressing our present realities

Of living in the eye of the storm

 

WE ARE NOW CASTING FOR STORM 2: THINGS COME APART 

 

STORM 2: THINGS COME APART will be a vivid evocation of the Cardiff riots of June 1919 – as reported in the local press ('Wild Scenes at Cardiff', South Wales Echo, Thursday 12 June 1919).

 

It will be created entirely in Cardiff and staged at a city centre location, close to the ‘storm centre’ of events, and with the performers in an intimate relationship with the audience. The work will create a vivid impression of what happened just outside the door, on the landscape we still walk, 100 years ago.

 

STORM 2: THINGS COME APART will be rehearsed quickly and presented in 4 performances.

 

The cast will consist of 3 narrators and several on-stage scenic operators.

Performers won’t need to memorise the text, as it will be read live from iPads.

 

It is desirable that performers have experience in radio, film, television and/or in theatre productions that have employed combinations of media and/or that they have been involved in processes of devising and collective creativity.

 

Strong, versatile voices are important and an ability to read and deliver text quickly, dynamically and with emotional depth.

 

Rehearsal will involve not only developing vocal modes appropriate for animating and delivering the text in an immediate and engaging manner but also in learning a choreography that will include the integration of period maps and photographs.

 

PRODUCTION DATES:

Rehearsals in Cardiff from Monday 12 March 2018

Performances from Wednesday 21st March to Saturday 24 March

 

VENUE:

Tabernacl Chapel Vestry, The Hayes, Cardiff

 

RENUMERATION: Company wage of £570 per week rehearse and play.

Relocation, commuting or touring allowance, when applicable, will be paid in line with UK Theatre / Equity Subsidised Agreement Rates for 2017-19

 

AUDITION WORKSHOPS WILL TAKE PLACE IN CARDIFF ON MONDAY 11TH DECEMBER

 

ROLE 1

We are looking to cast one female actor, aged 20-40, of Irish descent and accent, to be a narrator/performer. Given the nature of the production and Mike Pearson & Mike Brooke's creative process, we are looking for a skilful self-reliant performer who would embrace working collectively to turn journalese into resonant theatre.

 

ROLE 2

We are looking to cast one actor of any gender, aged 20-40, of Somali/Yemeni descent to be a narrator/performer. Given the nature of the production and Mike Pearson & Mike Brooke's creative process, we are looking for a skilful self-reliant performer who would embrace working collectively to turn journalese into resonant theatre.

 

NTW CASTING POLICY:

 

Every project is unique and NTW auditions to discover the most talented performers who connect to the company’s values and can help us to create extraordinary work. In doing so, NTW is flexible but committed in pursuit of the following priorities across each project:

  • Creating opportunities for performers who are Welsh, based in Wales or professionally trained in Wales.
  • Casting inclusively, promoting equality of opportunity in the arts and authentically representing Wales’ diverse communities.

 

ADDITIONAL NEEDS:

 

We will strive to make any required provisions, at audition and at work, to ensure that everyone has equal access to this opportunity. To discuss how we can meet your access requirements and/or additional needs, please don’t hesitate to be in touch.

 

APPLYING

 

If you would like to be considered for this production, please email your CV and headshot, telling us where you are based, to casting@nationaltheatrewales.org by midday on the 5th December.

----------------------------------------------------------------------------

MANYLION CASTIO

STORM 2: THINGS COME APART

 

Bydd y gwneuthurwyr theatr, Mike Pearson a Mike Brookes, sydd wedi creu peth o waith mwyaf clodwiw National Theatre Wales hyd yn hyn, yn ymuno â'r cwmni fel Artistiaid Cyswllt ac yn dechrau ar gydweithrediad tair blynedd anhygoel gyda NTW yn 2018.

 

Bydd The Storm Cycle yn gyfres o chwe chynhyrchiad wedi’u dyfeisio, eu llunio a’u cyfarwyddo gan Pearson a Brookes. Bydd y gweithiau amlgyfrwng hyn yn cael eu perfformio mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru, mewn amrywiaeth o raddfeydd a meintiau, ac yn archwilio dwy thema allweddol; gwirionedd a thystiolaeth. Byddant yn dod i ben yn 2020 gyda chynhyrchiad pwysig, newydd, ar raddfa fawr mewn lleoliad, ar gyfer rhaglen 10fed pen-blwydd NTW.

 

Mae storm yn dod ...

Rydym ni'n byw mewn cyfnod newidiol: cyfnod o ansicrwydd hinsoddol ac amgylcheddol a chwyldro cymdeithasol a gwleidyddol. Efallai mai fel yna y bu hi erioed.

Ond pa ffurfiau newydd y gall theatr eu datblygu a'u mabwysiadu: i ymgysylltu ac i adlewyrchu naws ein hamser ni?

Theatr frys: yn addas i'r pwrpas, gan fynd i'r afael â'n realiti presennol a’i fynegi wrth fyw yn llygad y ddrycin.

 

 

 RYDYM YN NAWR YN CASTIO AR GYFER STORM 2: THINGS COME APART

 

Bydd STORM 2: THINGS COME APART yn ail-gread  byw o derfysgoedd Caerdydd ym mis Mehefin 1919 - fel yr adroddwyd yn y wasg leol ('Wild Scenes in Cardiff', South Wales Echo, dydd Iau, 12 Mehefin 1919).

 

Caiff ei greu yn gyfan gwbl yng Nghaerdydd a'i gynnal mewn lleoliad yng nghanol y ddinas, yn agos at 'ganol storm' y digwyddiadau, gyda'r perfformwyr mewn perthynas agos â'r gynulleidfa. Bydd y gwaith yn creu argraff fyw o'r hyn a ddigwyddodd ychydig y tu allan i'r drws, ar y dirwedd yr ydym yn dal i gerdded arni, 100 mlynedd yn ôl.

 

Bydd STORM 2: THINGS COME APART yn cael ei ymarfer a’i gyflwyno mewn 4 perfformiad.

 

Bydd y cast yn cynnwys 3 adroddwr a sawl gweithredwr golygfeydd ar y llwyfan.

Ni fydd angen i berfformwyr gofio'r testun, gan y bydd yn cael ei ddarllen yn fyw o iPads.

 

Mae'n ddymunol ond nid yw'n hanfodol bod gan berfformwyr brofiad mewn radio, ffilm, teledu a/ neu mewn cynyrchiadau theatr sydd wedi defnyddio cyfuniadau o gyfryngau a/neu eu bod wedi bod yn rhan o brosesau dyfeisio a chreadigrwydd ar y cyd.

 

Mae lleisiau cryf, hyblyg yn bwysig a’r gallu i ddarllen a chyflwyno testun yn gyflym, yn ddeinamig a gyda dyfnder emosiynol.

 

Bydd ymarfer yn cynnwys datblygu dulliau lleisiol sy'n addas ar gyfer bywiogi a chyflwyno'r testun mewn modd uniongyrchol ac ymgysylltiol a hefyd dysgu coreograffi a fydd yn cynnwys integreiddio mapiau a ffotograffau o’r cyfnod.

 

 

DYDDIADAU’R CYNHYRCHIAD:

Ymarferion yng Nghaerdydd o ddydd Llun 12 Mawrth 2018

Perfformiadau o ddydd Mercher 21 Mawrth hyd ddydd Sadwrn 24 Mawrth

 

LLEOLIAD:

Festri Capel y Tabernacl, Yr Aes, Caerdydd

 

CYFLOG: Tâl cwmni o £ 570 yr wythnos, ymarfer a pherfformio.

Pan fydd yn berthnasol, telir lwfans adleoli, cymudo neu deithio yn unol â chyfraddau â chymhorthdal Cytundeb UK Theatre/Equity  ar gyfer 2017-19

 

BYDD GWEITHDAI CLYWELD YN CAEL EU CYNNAL YNG NGHAERDYDD DDYDD LLUN 11EG  RHAGFYR

 

RÔL 1

Rydym yn dymuno castio un actor benywaidd, 20-40 oed, o dras ac acen Wyddelig, i fod yn adroddwr/perfformiwr. O gofio natur y broses gynhyrchu a phroses greadigol Mike Pearson a Mike Brookes, rydym yn chwilio am berfformiwr hunan-ddibynnol medrus a fyddai'n mwynhau gweithio ar y cyd i droi iaith newyddiadurol yn theatr drawiadol.

 

RÔL 2

Rydym yn dymuno castio un actor o’r naill ryw, 20-40 oed, o dras Somali/Yemeni i fod yn adroddwr/perfformiwr. O gofio natur y broses gynhyrchu a phroses greadigol Mike Pearson a Mike Brookes, rydym yn chwilio am berfformiwr hunan-ddibynnol medrus a fyddai'n mwynhau gweithio ar y cyd i droi iaith newyddiadurol yn theatr drawiadol.

 

 

POLISI CASTIO NTW:

 

Mae pob prosiect yn unigryw ac mae NTW yn clyweld er mwyn darganfod y perfformwyr mwyaf talentog sy'n cysylltu â gwerthoedd y cwmni a all ein helpu ni i greu gwaith anhygoel. Wrth wneud hynny, mae NTW yn hyblyg ond wedi ymrwymo i geisio cyflawni'r blaenoriaethau canlynol ar draws pob prosiect:

  • Creu cyfleoedd i berfformwyr sy'n Gymry, yn byw yng Nghymru neu sydd wedi'u hyfforddi'n broffesiynol yng Nghymru.
  • Castio’n gynhwysol, gan hyrwyddo cyfle cyfartal yn y celfyddydau a chynrychioli cymunedau amrywiol Cymru yn gywir.

 

ANGHENION YCHWANEGOL:

 

Byddwn yn ymdrechu i wneud unrhyw ddarpariaethau gofynnol, yn ystod y clyweliad ac yn y gwaith, i sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal i'r cyfle hwn. I drafod sut y gallwn gwrdd â'ch gofynion mynediad a/neu anghenion ychwanegol, mae croeso i chi gysylltu â ni.

 

YMGEISIO

 

Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y cynhyrchiad hwn, e-bostiwch eich CV a'ch llun pen, gan ddweud wrthym lle rydych chi'n byw, i  casting@nationaltheatrewales.org  erbyn canol dydd ar y 5ed Rhagfyr.

Views: 887

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service