Ceisiadau Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2018 NAWR AR AGOR!

Clyweliadau Theatr 2018

Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2018
Yn 2018, bydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Theatr Clwyd a Theatr Genedlaethol Cymru i ddarparu preswyl dros 7 diwrnod a fydd yn cynnig cyfleoedd datblygu i berfformwyr ifanc sydd hefyd â diddordeb mewn llwybrau gyrfa eraill yn y maes.

Pwy sy’n gymwys?
Rydym yn chwilio am artistiaid ifanc a thalentog rhwng 16 a 22 oed sy’n byw yng Nghymru, neu a gafodd eu geni yng Nghymru, ac sydd â diddordeb mewn perfformio a dilyn gyrfa ym maes theatr. Efallai eich bod yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau neu weithgareddau drama yn rheolaidd drwy eich ysgol/coleg, ysgol ddrama breifat a/neu gwmni theatr ieuenctid lleol.
Byddwn yn dewis aelodau’r ensemble trwy broses clyweliad gan gynnwys cymryd rhan mewn gweithdy clyweliad grŵp a chael cyfweliad anffurfiol. 

Am ragor o wybodaeth am geisiadau, clyweliadau neu'r preswyl, ewch i'r wefan:

http://www.nyaw.org.uk/cy/national-youth-theatre-of-wales

DYDDIAD CAU: 26.03.18

Views: 166

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service