Mae Egin yn gyfnod preswyl rhyngwladol newydd sbon i artistiaid yng Nghapel Curig yng Ngwynedd, sy'n gosod newid yn yr hinsawdd, y gellid dadlau yw'r mater mwyaf sy'n wynebu dynolryw, ar frig yr agenda.
Mae'r trefnwyr yn chwilio am 13 o 'Gysylltwyr Lleol' i gymryd rhan. Bydd pob Cysylltydd Lleol yn cael eu paru gydag artist sy'n cymryd rhan yn y cyfnod preswyl er mwyn helpu i ddatblygu eu gwybodaeth a'u cysylltiad â'r lleoliad cyn iddynt gyrraedd. Cewch eich gwahodd hefyd i groesawu eich artist, i fynychu trafodaethau (wedi'u rhaglennu o gwmpas themâu newid yn yr hinsawdd) ac i brofi peth o'r gwaith a grëwyd gan yr artistiaid yn ystod eu hamser yn Eryri.
Bydd y trefnwyr yn talu costau teithio rhesymol.
Am ragor o wybodaeth, dewch i'n digwyddiad Cysylltydd Lleol i ddysgu rhagor am National Theatre Wales, Egin a rôl y Cysylltydd Lleol.
Lleoliad: Plas Y Brenin, Capel Curig, LL24 0ET
Dyddiad: 2 Mai 2019
Amser: 7pm
Cysylltwch â gwenfairhawkins@nationaltheatrewales.org i gadarnhau y byddwch yn bresennol.
Rhagor am:
EGIN
1-13 Gorffennaf 2019
Parc Cenedlaethol Eryri
Nawr yn fwy nag erioed mae angen y celfyddydau a diwylliant arnom i'n helpu i ymateb; i'n hysbrydoli a'n hysgogi drwy gynnig syniadau sy'n herio ein cysyniadau ac yn dylanwadu ar ein hymddygiad.
Nod Egin yw roi hwb i ymatebion artistig newydd i'r pwnc. Gan ddechrau gydag arbrofi creadigol, mae Egin yn ceisio llywio ymarfer newydd, dychmygu dyfodol posibl, ac ysbrydoli dulliau cynaliadwy o fyw.
Wedi'i ddatblygu gan National Theatre Wales, mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru a gyda chymorth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Cyngor Prydeinig a Pharc Cenedlaethol Eryri.
https://www.nationaltheatrewales.org/ntw-projects/egin/
You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!
Join National Theatre Wales Community