Galwad am gyfarwyddwr – gwaith am dâl

Galwad yw hwn am gyfarwyddwr sydd â phrofiad o waith theatr fforwm/theatr mewn addysg i gynnal gweithdy theatr fforwm ar groesholi drwy gyfieithiad fel rhan o brosiect ymchwil yn Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth.

Gofynnir i’r cyfarwyddwr dreulio dau ddiwrnod yn Aberystwyth – un diwrnod i (Mehefin 17) weithio gydag actor a chyfreithiwr ar weithgaredd croesholi mewn achos llys. Bydd yr ail ddiwrnod (Mehefin 20)  yn golygu cynnal gweithdy theatr fforwm lle caiff yr actor ei groesholi, ond lle bo’r achos yn digwydd drwy gyfieithu ar y pryd. Bydd y ffug reithgor yn clywed yr achos o bell, ond gofynnir i’r cyfarwyddwr fod yn Aberystwyth er mwyn llywio’r weithgaredd. Telir ffi o £1500 am y gwaith, ynghyd a chostau teithio a chynhaliaeth ar raddfa safonol Prifysgol Aberystwyth.

Ceisiadau drwy cv at Dr Catrin Fflûr Huws trh@aber.ac.uk erbyn dydd Mercher, Mehefin 1af, 2022.

This is a call out for a theatre director where the ability to speak Welsh is essential.

Views: 143

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service