Profiadau Dilynwraig 'Y Bont' gan Theatr Genedlaethol

Nid 'adolygiad' yw hon, mwy fel 'blog profiadau'r dydd' o safbwynt un beirniad ifanc. Felly co ni de.

Rwy'n ymwybodol bod dweud 'Doeddwn i ddim yn gwybod beth i ddisgwyl!' yn bach o cliché, ond mae'n wir. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i ddisgwyl, am y rheswm syml, doeddwn i byth wedi cael y brofiad o weld unrhywbeth o'r fath yn y Gymraeg. Hwn yw'r tro cyntaf mae Theatr Cymraeg wedi plethu dyfeisiau modern megis fideo gyda'r elfennau mwy traddodiadol fel theatr fyw a chyfuno nhw trwy perfformiad promenâd. Mae hwn yn cam sicr mewn i'r dyfodol, arwydd bod Theatr Cymraeg yn gallu bod yn arbrofol, yr un mor arbrofol a Theatr saesneg. A pha achlusur arall fyddai'n fwy addas na pen-blwydd Protest Pont Trefechan, protest sy'n cael ei hystyried fel dechrau brwydr yr iaith Gymraeg.

Wrth gyrraedd y Ganolfan Celfeddydau yn Aberystwyth, roedd bendant teimlad o gyffro. Ar ol cael tocyn, roedd rhaid cael bathodyn gyda map arno a pâr o glustffonau. Yna, dechreuodd fideo ar amryw o sgriniau gwahanol, a dechreuodd stori Kye a Dwynwen. Cariadon yn byw yng Nghaerdydd, mae'r cwpwl yn gwahanu dros gwahaniaethau cyffredinol, er un gwahaniaeth arwyddocaol yw bod Dwynwen yn dod o Gymru Cymraeg, tra bod Kye

yn dod o gymoedd y Rhondda, lle mae byw bywyd Cymraeg yn fwy 'annodd'. Welwn y par yn cweryla dros hyn. Dyma ni wedyn yn gadael y ganolfan, yn cerdded heibio Dwynwen fel cyfwelydd teledu yn siarad i Arwel Gruffydd, ac i lawr y grisiau i hen fysys 60au i fynd a ni lawr i ganol y dre. Wrth eistedd ar y bws, mae'r stewardiaid yn gofyn i ni gyd wisgo'r clustffonau er mwyn gwrando i araith enwog iawn, sef un Saunders Lewis, Tynged yr Iaith. Mae hwn yn cael ei atalnodi gan ddarnau o gyfweliadau gyda rhai brotestwyr a oedd ar y bont yn 1963. Wrth cyrraedd y dre, da' ni gyd yn cerdded lawr i'r swyddfa post er mwyn gweld actorion wedi'i wisgo mewn dillad 60au yn plastro posteri 'Statws Swyddogol i'r Iaith Gymraeg' ar ffenestri'r swyddfa post.

Trwy'r clustffonau, da ni'n clywed lleisiau'r myfyrwyr, yn sgwrsio a gobeithio y bydd heddwas yn dod i arestio nhw, fel gallen nhw gwrthod popeth yn Saesneg. Yn anffodus, does neb yn dod, felly mlaen a ni i'r caffi sy'n gyfateb a lliw ein bathodyn. 

Yn y caffi, mae pawb yn cael ei groesawi gyda disgled a pice ar y man.  Yna, mae'r teledu yn dangos cyfweliadau rhai o'r brotestwyr gwreiddiol, yn adrodd yr hanes, yn cyfleu'r teimladau. 

O'r diwedd, mae'n amser i ni gyd cerdded i'r bont.

Mae'n teimlad rhyfedd, cerdded ar yr un llwybr a wnaeth y bobl yma 50 o flynyddoedd yn ol, gyda bwriad chwildroadol. Er nad oedden nhw'n meddwl hynny ar y pryd wrth gwrs, doedd y brotest ddim yn un 'llwyddianus' gan nad oedd neb wedi'i harestio, ond nhw dechreuodd yr olwyn ar y diwrnod yna, nhw dechreuodd rhywbeth pwysig iawn. Mae'r clustffonau nawr yn llenwi gyda swn sgwrsio'r protestwyr yn cerdded i'r bont. Wrth i ni agosai, cawn gweld actorion yn sefyll gyda posteri, yn barod i ail-greu achlusur hanesyddol yn yr un man. Mae'r teimlad o bod yn yr un fan yn ysgubol, braidd yn od hyd yn oed. Ond dyma nhw, gyda synau traffic yn dod allan o uned sain wedi'i sefydlu ar y walydd, mae'r actorion yn eistedd yng nghanol y bont, fel wnaethon nhw 50 mlynedd yn ol. 

Yna, mae stori Kye a Dwynwen yn ail-cychwyn. Mae Dwynwen wedi cerdded i ffwrdd o'r swydd, ac mae'n cwrdd a Kye ar Y Bont. Mae'r par yn ildio i'w gilydd, ac yna mae'r holl bont yn canu'r Anthem Genedlaethol.

        

Roedd yr holl profiad yn anhygoel, yn atgofus ac emosiynol. Roedd y perfformiad yn un arwyddocaol iawn, nid dim ond ar ran arwyddocad hanesyddol, ond ar ran arwyddocad Theatr Cymraeg hefyd.                                                                         

Roeddwn i ar y bont yn 2013. 

Views: 438

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

Comment by Steve Dimmick on February 8, 2013 at 1:26

Dim ond nodyn bach i dweuad diolch am hyny Rachel.  Os pobl eiseau weld mwy o Trydar, Cyfweliadau, Fideos, Lluniau, Adolygiadau, Sain: POPETH #ybont mewn un lle, mynd i'r: http://storify.com/TheatrGenCymru/ybont ^SD

Comment by Elin Williams on February 5, 2013 at 5:41

Falch dy fod ti'n cytuno Adam :)

Comment by Adam Somerset on February 5, 2013 at 4:45

Elin, i fi dau pethau s’yn pwysig.Mae hwn yn cam sicr mewn i'r dyfodol, arwydd bod Theatr Cymraeg yn gallu bod yn arbrofol, yr un mor arbrofol a Theatr saesneg”

“..Teimlad o gyffro”- cyffro yw popeth. 



image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service