Ar hyn o bryd, rwy'n ceisio datblygu prosiect theatr lled-wirioneddol, hynny yw, mae'n cynnwys elfennau o theatr verbatim, ond hefyd elfennau dychmygus hefyd, drwy ddychmygu sut byddai'r sgyrsiau wedi digwydd? Yn naturiol mae hyn yn anodd efo pobol sydd yn bodoli yn y byd go iawn, gan fod angen i'r portread fod yn un realistig, ond hefyd un nad yw'n enllibus - tricky. O, ac er mwyn cymhlethu pethau mae e'n ddwyieithog. Oes gan unrhyw un unrhyw brofiadau o weithio ar theatr ferbatim?

Views: 194

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

Comment by Catrin Fflur Huws on May 22, 2014 at 1:21

Hi Heledd

Diolch i ti am d'ymateb.

1. A oes unrhyw waith wyt ti'n wybod wedi ei wneud ar theatr lle mae rhan o'r ddeialog o ddogfenaeth gyhoeddus, a rhan arall ar sail dycmhygu'r hyn sydd yn digwydd? Yr hyn sydd gen i mewn golwg yw gohebiaeth ysgrifenedig rhwng dau berson (mae hwnnw ar gael yn gyhoeddus) ond hefyd sut mae'r unigolion hynny yn delio efo'r wybodaeth mae nhw'n dderbyn - sydd o reidrwydd yn ddychmygol. Gan hynny, dyw e ddim yn ffitio yn daclus fel theatr verbatim bur (megis dramau tribiwnlys Richard Norton Taylor) ond dyw e ddim ychwaith yn ffitio efo rhywbeth sydd yn seiliedig ar y gwirionedd ond y gwirionedd hynny wedi ei symud i le a chyfnod newydd.

2. Unrhyw syniadau ar sut i ddelio efo portreadu pobol go iawn heb iddynt fod yn charicatures, a heb iddynt fod yn 'goodies' a 'baddies' yn ol safbwynt yr awdur?

 

Wyddost ti a oes unrhyw drafodaeth yn unlle o'r problemau hyn - neu enghreifftiau o sefyllfaledd lle mae'r math yma o beth wedi digwydd?

Comment by Heledd Mair Watkins on May 21, 2014 at 6:54

Hia Catrin! Ma da fi'r tamed lleia o brofiad ar ôl astudio ychydig yn ystod fy MA. Dim llwyth ddo, os wyt ti angen unrhyw help/cymorth neu rhywyn i rannu syniade gad fi wbod x

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service