Casting Breakdown: ENGLISH
National Theatre Wales and Quarantine


Who we are looking for
We’re looking for someone with direct personal experience of teaching English as a second or other
language (ESOL), to be the sole performer in an upcoming production. This person should appear to be 30 -
55 and could be of any gender.


This person could be a professional performer who has taught ESOL or an ESOL teacher who has an
interest in performing for theatre.We would especially like to hear from performers with personal experience of migration and/or Welsh
speakers.


There will be one performer in ENGLISH, on stage alongside a technician and a stage manager.


The Production
ENGLISH is a collaboration between National Theatre Wales and Quarantine which will be part of Festival of
the Voice 2018. ENGLISH is a piece of performance that looks at the relationship between language and
identity in the context of migration:

What happens to your sense of self when you move somewhere, and you don’t really know how to say who
you are?

Right now seems an interesting and complex moment to look at questions around “English-ness” and
nationhood and belonging - and perhaps even more interesting and complex to do this in Wales, particularly
through the lens of looking at language.
The performance will take the form of a language lesson for its audience, a challenge maybe to the notion of
“One nation, one language” politics, and a glance towards a future where the use of multiple languages in
society is not just commonplace and accepted, but desirable, enriching, maybe inevitable…

Quarantine’s work focuses upon the lived experience of its performers.  It asks questions about
representation – about who speaks for whom – and concocts an appropriate form for each piece.  The
people on stage are individuals, each with their own story – they are experts in their own lives.
Qtine.com
Nationaltheatrewales.org

Is this you?
We’re inviting expressions of interest from experienced performers and/or experienced teachers who meet
the above criteria and are willing to perform and commit to the duration of the project and potential future
touring.  Welsh or Wales-based performers and/or teachers preferred.


How to apply:
If you have the relevant skills and experience and are excited about this project, please send your CV, a
recent headshot/photograph and a little something about why you'd like to be involved in this project (no
more than 100 words) to casting@nationaltheatrewales.org before 6pm on 2nd February.

If you have any questions - please don’t hesitate to get in touch: casting@nationaltheatrewales.org
AUDITIONS will take place in Cardiff on 8th & 9th February 2018.

** Please let us know your availability for these dates when you suggest yourself.**  

PRODUCTION DATES (please note: you must be available for all dates):
Research and development: 19th to 23rd March 2018 (Cardiff)
Rehearsals: 8th May to 9th June (Cardiff)
Performances: 14th to 24th June 2018 (Cardiff)

There are plans for future UK and International Touring.


Wage: £585 per week rehearse and play

Relocation, commuting or touring allowance, if/when applicable, will be paid in line with UK Theatre / Equity
Subsidised Agreement Rates for 2017-19
Performers are employed on a freelance contract and would be responsible for their own Tax and NI.

How National Theatre Wales casts its productions:

Every project is unique and NTW auditions to discover the most talented performers who connect to the
company’s values and can help us to create extraordinary work. In doing so, NTW is flexible but committed
in pursuit of the following priorities across each project:
▪      Creating opportunities for performers who are Welsh, based in Wales or professionally trained in
Wales.
▪      Casting inclusively, promoting equality of opportunity in the arts and authentically representing
Wales’ diverse communities.

We will strive to make any required provisions, at interview and at work, to ensure that everyone has equal
access to this opportunity. To discuss how we can meet your access requirements and/or additional needs,
please don’t hesitate to be in touch.

Amlinelliad Castio:
ENGLISH
National Theatre Wales a Quarantine


Am bwy ydym ni’n chwilio?
Rydym yn ceisio dod o hyd i rywun sydd â phrofiad personol o ddysgu Saesneg fel ail ynteu iaith arall
(ESOL), i fod yr unig berfformiwr mewn cynhyrchiad sydd gennym ar y gorwel. Dylai’r person hwn
ymddangos fel petai rhwng 30 a 55 mlwydd oed ac o’r naill ryw neu’r llall.
Gallai’r person hwn fod yn berfformiwr proffesiynol sydd wedi dysgu ESOL ynteu yn athro ESOL sydd yn
diddori mewn perfformio mewn cyd-destun theatr.
Byddai diddordeb arbennig gennym mewn clywed oddi wrth berfformwyr sydd â phrofiad personol o fudo
ac/ynteu siaradwyr Cymraeg.
Un perfformiwr fydd yna ar gyfer ENGLISH, a fydd yn ymddangos ar y llwyfan ochr yn ochr â thechnegydd a
rheolwr llwyfan.
Y Cynhyrchiad


Mae ENGLISH yn gywaith ar y cyd rhwng National Theatre Wales a Quarantine ac a fydd yn rhan o Ŵyl y
Llais 2018. Mae ENGLISH yn ddarn perfformiad sy’n edrych ar y berthynas rhwng iaith a hunaniaeth yng
nghyd-destun mudo:

Beth sy’n digwydd i’ch ymdeimlad o hunaniaeth pan fyddwch chi’n symud i rywle arall, a dydych chi ddim o
ddifri’n gwybod sut i esbonio pwy ydych chi?

Mae’r adeg hon yn gyfnod diddorol, ond cymhleth, i ystyried cwestiynau o gwmpas “Seisnigrwydd” a
chenedligrwydd a pherthyn - ac o bosib hyd yn oed yn fwy diddorol a chymhleth i wneud hyn yng Nghymru,
yn arbennig felly trwy lens edrych ar iaith.
Bydd y perfformiad ar ffurf gwers iaith ar gyfer ei chynulleidfa, her i’r cysyniad gwleidyddol o “Un genedl, un
iaith”, a chip tuag at ddyfodol pan fydd ieithoedd amrywiol yn cael eu defnyddio o fewn cymdeithas a hynny’n
gyffredin, yn cael ei groesawu a’i dderbyn, a hyd yn oed yn rhywbeth atyniadol sy’n cyfoethogi ac o bosib yn
ddyfodol anochel …

Mae gwaith Quarantine yn canolbwyntio ar brofiadau y mae eu perfformwyr wedi byw trwyddynt.  Mae’n holi
cwestiynau ynghylch cynrychiolaeth – ynghylch pwy sy’n siarad ar ran pwy arall – ac yn llunio ffurf addas ar
gyfer pob darn.  Mae’r bobl ar y llwyfan yn unigolion, pob un â’i stori ei hun – nhw yw’r arbenigwyr ar eu
bywydau eu hunain.


Qtine.com
Nationaltheatrewales.org

Ai chi yw’r person hwn?
Rydym yn gwahodd Datganiadau Diddordeb oddi wrth berfformwyr profiadol ac/ynteu athrawon profiadol
sy’n bodloni’r amodau uchod ac yn barod i berfformio ac ymrwymo i gyfnod y prosiect ac unrhyw daith bosib
yn y dyfodol. Rhoddir blaenoriaeth i berfformwyr ac/ynteu athrawon Cymreig neu rai wedi eu lleoli yng
Nghymru.


Sut i wneud cais:
Os oes gennych y medrau a’r profiad perthnasol ac yn teimlo cyffro ynghylch y prosiect hwn, anfonwch CV
os gwelwch yn dda, llun pen ac ysgwyddau diweddar a rhyw amlinelliad ynghylch pam yr hoffech fod yn rhan
o’r prosiect (mewn llai ‘na 100 gair) at casting@nationaltheatrewales.org cyn 6pm ar 2 Chwefror.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau – yna peidiwch â phetruso cyn cysylltu:
casting@nationaltheatrewales.org
Cynhelir CLYWELIADAU yng Nghaerdydd ar yr 8fed a’r 9fed Chwefror 2018.

** Rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda ynghylch eich argaeledd ar gyfer y dyddiadau canlynol
wrth i chi eich awgrymu eich hun.**


DYDDIADAU’R CYNHYRCHIAD (Nodwch os gwelwch yn dda bod rhaid i chi fod ar gael ar gyfer yr
holl ddyddiadau canlynol):
Ymchwil a datblygiad: 19eg hyd 23ain Mawrth 2018 (Caerdydd)
Ymarferion: 8fed Mai hyd 9fed Mehefin (Caerdydd)
Perfformiadau: 14eg hyd 24ain Mehefin 2018 (Caerdydd)

Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer mynd ar daith yn y dyfodol yn y DU a thramor.

Cyflog: £585 yr wythnos ar gyfer ymarferion a’r perfformio

Bydd lwfans adleoli, cymudo a theithio pan/os yn berthnasol, yn cael ei dalu yn unol â Chyfraddau
Sybsideiddio Cytundeb Theatrau’r DU / Equity ar gyfer 2017-19
Cyflogir perfformwyr ar sail lawrydd a byddant yn gyfrifol am dalu treth ac Yswiriant Cenedlaethol eu hunain.

Sut mae National Theatre Wales yn castio ei gynyrchiadau:

Mae pob prosiect yn unigryw ac mae NTW yn cynnal clyweliadau er mwyn dod o hyd i’r perfformwyr mwyaf
dawnus sy’n teimlo cyswllt â gwerthoedd y Cwmni ac yn medru ein cynorthwyo i lunio gwaith rhyfeddol. O
wneud hyn mae NTW yn hyblyg ond yn unplyg ymrwymedig i geisio’r blaenoriaethau canlynol ar draws pob
prosiect:
▪      Creu cyfleoedd ar gyfer perfformwyr Cymreig, perfformwyr wedi eu lleoli yng Nghymru ynteu a
hyfforddwyd yn broffesiynol yng Nghymru.
▪      Castio mewn ffordd gynhwysol, gan hyrwyddo cyfleoedd cyfartal o fewn y celfyddydau a
chynrychioli yn ddilys gymunedau amrywiol Cymru.

Byddwn yn ymdrechu i wireddu unrhyw ddarpariaeth y mae gofyn amdani yn y cyfweliad ac yn y gwaith, er
mwyn sicrhau bod pawb â’r un cyfle i fod yn rhan o’r prosiect hwn. Er mwyn trafod sut y medrwn fodloni eich
anghenion mynediad a/ynteu anghenion ychwanegol, peidiwch â phetruso cyn cysylltu â ni.

Views: 642

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service