Mae NTW TEAM yn nodi diwedd y flwyddyn gyntaf o'n rhaglen pedair blynedd drwy gynnal Partïon Perfformio TEAM yn Sir Benfro a Wrecsam, gyda'r cyntaf yn digwydd yn Hwlffordd ym mis Tachwedd.
Beth yw Parti Perfformio? Mae'n gymysgedd o berfformio, sgwrs a pharti!
Y diben? I gael gwell syniad o’r hyn sy’n bwysig i bobl Sir Benfro, i roi gwybod ychydig yn rhagor i chi am NTW a TEAM ac i ni ddarganfod yr hyn yr hoffech chi gael gan eich Theatr Genedlaethol wrth i ni barhau ar ein taith i greu sioe gyda'n gilydd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Ymunwch â ni am y cyfle i ddweud eich dweud ac i fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau o'r dechrau. Bydd Catherine Paskell yn gweithio'n agos gyda'r gymuned i greu rhywbeth hwyliog a rhyngweithiol, wedi'i ysbrydoli gan TEAM yn Sir Benfro ac mae angen i chi gymryd rhan!
Rydym yn chwilio am Ddylunydd i fod yn rhan o'r Tîm Creadigol wrth ddatblygu perfformiadau byr, wedi'u dyfeisio i annog sgyrsiau gydag aelodau'r gynulleidfa yn ystod y digwyddiad.
Bydd angen i chi fod ar gael:
Dydd Llun 19eg Tachwedd
Dydd Mawrth 20fed Tachwedd
Dydd Mercher 21ain Tachwedd
Dydd Iau, 22ain Tachwedd
Gan y bydd hyn yn digwydd yn Hwlffordd, mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan ddylunwyr yn Sir Benfro. Y ffi fydd £100 y dydd.
Byddai'r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio yn y celfyddydau sy'n dymuno datblygu ei arfer ymhellach.
Rolau, gofynion a chyfrifoldebau:
I wneud cais, dylech anfon copi o'ch CV a llythyr eglurhaol, yn dweud wrthym yr hyn yr ydych yn credu y gallwch gyfrannu i'r rôl hon, ar heb fod yn fwy na dwy ochr o bapur A4, at Naomi Chiffi i team@nationaltheatrewales.org erbyn canol dydd ar 16 Hydref. Cynhelir cyfweliadau ar 29ain Hydref yn Sir Benfro.
© 2024 Created by National Theatre Wales. Powered by
You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!
Join National Theatre Wales Community