Angen Cyfarwyddwr Cynorthwyol Parti Perfformio NTW TEAM, Sir Benfro

Mae NTW TEAM yn nodi diwedd y flwyddyn gyntaf o'n rhaglen pedair blynedd drwy gynnal Partïon Perfformio TEAM yn Sir Benfro a Wrecsam, gyda'r cyntaf yn digwydd yn Hwlffordd ym mis Tachwedd. 

Beth yw Parti Perfformio? Mae'n gymysgedd o berfformio, sgwrs a pharti!

Y diben? I gael gwell syniad o beth sy'n bwysig i bobl Sir Benfro, i roi gwybod ychydig yn rhagor i chi am am NTW a TEAM ac i ni ddarganfod yr hyn yr hoffech chi gael gan eich Theatr Genedlaethol wrth i ni barhau ar ein taith i greu sioe gyda'i gilydd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Ymunwch â ni am y cyfle i ddweud eich dweud ac i fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau o'r dechrau.  Bydd Catherine Paskell yn gweithio'n agos gyda'r gymuned i greu rhywbeth hwyliog a rhyngweithiol, wedi'i ysbrydoli gan TEAM yn Sir Benfro ac mae angen i chi gymryd rhan! 

Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Cynorthwyol i gynorthwyo'r Cyfarwyddwr, Catherine Paskell, wrth ddatblygu perfformiadau byr, wedi'u dyfeisio i annog sgyrsiau gydag aelodau'r gynulleidfa yn ystod y digwyddiad.  Bydd y cynhyrchiad terfynol yn gyd-gread yn cynnwys ystod o ymarferwyr y celfyddydau gan gynnwys beirdd, cerddorion, llenorion ac actorion, ymhlith eraill.

Bydd angen i chi fod ar gael:

Dydd Llun 19eg Tachwedd

Dydd Mawrth 20fed Tachwedd

Dydd Mercher 21ain Tachwedd

Dydd Iau, 22ain Tachwedd

 

Gan y bydd hyn yn digwydd yn Hwlffordd, mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan Cyfarwyddwyr yn Sir Benfro. Y ffi fydd £100 y dydd.

Byddai'r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer ymgeisydd sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn y celfyddydau sy'n dymuno datblygu eu harfer ymhellach.

 

Rolau a chyfrifoldebau: 

  • Mynychu a chefnogi gweithdai
  • Datblygu elfennau o'r darn olaf
  • Cysylltu â NTW staff
  • Ffurfio perthnasoedd gyda'r gymuned.
  • Hyrwyddo'r broses ddatblygu drwy blog ar dudalennau Cymuned NTW a TEAM.
  • Gwneud gwaith ymchwil ar ran y tîm creadigol.
  • Cynrychioli NTW yn y gymuned gyfagos a'r ardaloedd cyfagos.

 

Y Sgiliau a'r Profiad sydd eu hangen:

  • Rhywfaint o brofiad o gyfarwyddo.
  • Dealltwriaeth o sut i ymgysylltu â chymunedau amrywiol.
  • Profiad o waith celfyddydol yn y gymuned.
  • Eich cludiant eich hun yn ddymunol.
  • Y gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog.

 

I wneud cais, dylech anfon copi o'ch CV a llythyr eglurhaol, yn dweud wrthym yr hyn yr ydych yn credu y gallwch gyfrannu i'r rôl hon, ar heb fod yn fwy na dwy ochr o bapur A4, at Naomi Chiffi i team@nationaltheatrewales.org erbyn canol dydd ar 16 Hydref.  Cynhelir cyfweliadau ar 29ain Hydref yn Sir Benfro.

 

Views: 101

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service