Rachel Morgan's Blog – February 2013 Archive (2)

Cynnau Tân gan Rhian Staples. Sherman Cymru

Hawdd cynnau tan ar hen aelwyd, medd y dywediad ond yn groes i’r disgwyl nid dyma a geir yn nrama gyntaf Rhian Staples.

Enillodd Cynnau Tân y fedal ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro yn 2011, a hawdd gweld pam fod y sgript slic a doniol hon wedi plesio’r beirniaid.

Mae’r ddrama yn symud yn gyflym wrth inni ddilyn Sioned ac Aled sy’n cwrdd am y tro cyntaf ers ugain mlynedd a mwy ar orsaf drenau prysur. Yn groes i’r disgwyl, daw i’r amlwg nad…

Continue

Added by Rachel Morgan on February 5, 2013 at 13:08 — No Comments

Y Bont. Theatr Genedlaethol Cymru.

Roedd awyrgylch trydanol yn llenwi cyntedd Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ar brynhawn Sul cyn dechrau perfformiad unigryw Theatr Genedlaethol Cymru o’r Bont. Ac nid yw’n syndod ychwaith ; roedd 500 ohonom yn aros yn eiddgar i’r hyn a ddisgrifiwyd cynt fel perfformiad a fyddai’n ‘plethu theatr byw gyda ffilm, technoleg ddigidol, a chyfryngau cymdeithasol i greu un digwyddiad bythgofiadwy’. * Heb os, roeddem yn aros i fod yn rhan o berfformiad a fyddai’n garreg filltir…

Continue

Added by Rachel Morgan on February 5, 2013 at 13:00 — 6 Comments

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service