Cyfarwyddwr
Celfyddydau Anabledd Cymru
Cyflog: £45,000 (yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad)
Lleoliad: Caerdydd, gyda’r gallu i weithio ar draws Cymru
Celfyddydau Anabledd Cymru (DAC) ydy’r mudiad cenedlaethol ar gyfer artistiaid a chynulleidfaoedd B/byddar ac anabl yng Nghymru. Ein gweledigaeth ydy creu Cymru greadigol a chydradd, lle mae pobl F/fyddar ac anabl yn ganolog i gelfyddydau ein gwlad.
Yn genedlaethol, mae diddordeb cynyddol mewn gweithio gydag artistiaid B/byddar ac anabl, a sicrhau mynediad i gynulleidfaoedd a chyfranogwyr B/byddar ac anabl o fewn y sector ehangach. Rydym yn credu bod DAC mewn sefyllfa dda i wneud y gorau o'r newid amserol, cadarnhaol hwn, sy'n ategu ein huchelgeisiau a'n gwerthoedd ein hunain, sydd i gyd yn cael eu cefnogi gan bwyslais ar amrywiaeth a chynhwysiant gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Nawr ydy’r amser i newid, ac adeiladu ar ein huchelgais i arwain arfer, dylanwadu ar bolisi a chefnogi artistiaid a chynulleidfaoedd B/byddar ac anabl. Mae hwn yn gyfle cyffrous i’n Cyfarwyddwr newydd gymryd cyfrifoldeb dros y mudiad, a gydag arweinyddiaeth flaengar, arwain y broses o greu newid parhaol o fewn y sector celfyddydau yng Nghymru.
Bydd y Cyfarwyddwr newydd yn arweinydd strategol ar gyfer DAC, ac yn cefnogi artistiaid a chynulleidfaoedd B/byddar ac anabl, ac yn dylanwadu ar bolisi ac arfer ar draws y sector ehangach. Bydd y Cyfarwyddwr hefyd yn arwain y mudiad a'r tîm, ac yn sicrhau trefniadau llywodraethu effeithiol, gan alluogi DAC i gyflawni ei weledigaeth, ei genhadaeth a'i amcanion strategol.
Rydym yn chwilio am berson llawn egni a brwdfrydedd ar gyfer y rôl hon, gyda chymhelliant a gweledigaeth i greu newid. Yn ddelfrydol, bydd y Cyfarwyddwr newydd yn dod â theimlad o ‘wmff ' (oomph), ac egni i’r rôl, ac yn creu ffordd gyffrous ac ysbrydoledig o arwain y mudiad a'r tîm. Bydd y person yn rwydweithiwr da, ac yn defnyddio ei gysylltiadau a datblygu mwy i adeiladu proffil y mudiad a'i effaith. Bydd ganddo brofiad o arwain tîm neu fudiad, a bydd yn gefnogol iawn o'r tîm a'r aelodau, ac yn mwynhau eu grymuso. Yn ddelfrydol, bydd y Cyfarwyddwr newydd yn uniaethu fel person B/byddar neu anabl.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y rôl hon, a manylion am sut i wneud cais, cysylltwch â Dorothy Haines yn Richard Newton Consulting
recruitment@richard-newton.co.uk mailto:recruitment@richard-newton.co.uk
www.richard-newton.co.uk/assignment/dac-director
Y dyddiad cau ar gyfer anfon ceisiadau ydy 10.00 y.b Dydd Llun 1af o Orffennaf 2019
Cynhelir cyfweliadau cychwynnol yng Nghaerdyddar 16 Gorffennaf 2019
Cynhelir ail gyfweliadau yng Nghaerdydd ar 25 Gorffennaf 2019
Mae Celfyddydau Anabledd Cymru (Elusen Gofrestredig 1176578) yn derbyn cyllid refeniw gan Gyngor Celfyddydau Cymru
Director
Disability Arts Cymru
Salary: £45,000 (commensurate with skills and experience)
Location: Based in Cardiff, with the ability to work across Wales
Disability Arts Cymru (DAC) is the national organisation for D/deaf and disabled artists and audiences in Wales. Our vision is to create a creative and equal Wales where D/deaf and disabled people are central to the arts of our nation.
Nationally there is a growing interest in working with D/deaf and disabled artists and ensuring access for D/deaf and disabled audiences and participants within the wider sector. We believe DAC is well placed to make the most of this timely and positive shift which echoes our own ambitions and values, all of which are supported by the emphasis on diversity and inclusion from the Arts Council of Wales.
The time for change is now, building on our ambition to lead practice, influence policy and support D/deaf and disabled artists and audiences. This is an exciting opportunity for our new Director to take the reins of the organisation, and with forward-thinking leadership drive the process to creating lasting change within the arts sector in Wales.
The new Director will be the strategic lead for DAC and champion D/deaf and disabled artists and audiences, influencing policy and practice across the wider sector. The Director will also lead the organisation and team, and ensure effective governance, enabling DAC to achieve its vision, mission and strategic objectives.
We are seeking a person who brings an energy and enthusiasm for this role, with a drive and vision to create real change. Ideally the new Director will bring a sense of ‘wmff’ and an energy that creates an exciting, inspirational way of leading the organisation and team. A good networker, they will bring their connections and be able to both sustain these and develop more to build the profile of the organisation and its impact. Ideally the new Director will identify as D/deaf or disabled.
For further information about this role, and details on how to apply please contact Dorothy Haines at Richard Newton Consulting recruitment@richard-newton.co.uk
www.richard-newton.co.uk/assignment/dac-director
Deadline for applications is 10 am Monday 1st July 2019
Interviews will be held xxxxxxxxxxxxx July 2019
Disability Arts Cymru (Reg Charity 1176578) is revenue funded by the Arts Council of Wales
© 2024 Created by National Theatre Wales. Powered by