GALWAD AM FEIRDD!
RHAGRAS SLAM WRECSAM – PARTNERIAETH RHWNG
TEAM NTW gyda Voicebox A THE ROUNDHOUSE LLUNDAIN.
Yn un o uchafbwyntiau calendr y Roundhouse, mae'r 'Slam Barddoniaeth' yn ôl. Nawr yn ei 14eg flwyddyn, mae'r slam yn cynnig cyfle i feirdd ifanc, 18-25, o bob cwr o'r DU gystadlu am deitl Pencampwr y Slam wedi'i gynnal yn eu prif ofod ynghyd â gwobr gyntaf o £500. Eleni, rydym yn falch iawn o gyhoeddi'r rhagras gyntaf yn Wrecsam, a gynhelir ar y cyd rhwng Roundhouse a TEAM NTW gyda Voicebox.
Does dim byd tebyg i Rownd Derfynol Slam Roundhouse; awyrgylch o ddisgwyliad ac anogaeth yn erbyn cefnlen Prif Ofod chwedlonol Roundhouse. A allech chi fod yn un o'n deg yn y rownd derfynol eleni? Mae'r beirniaid yn cynnwys y bardd enwog Anthony Anaxagorou, a hefyd ar ôl newydd orffen taith orlawn ryngwladol o'r sioe hynod boblogaidd Burgerz, byddwn yn croesawu Travis Alabanza. Mwy o gyfranogwyr i'w cyhoeddi yn fuan!
Bydd y Roundhouse hefyd yn cynnal rhagrasys yn Hull mewn partneriaeth â Hull Truck Theatre a byddant yn dychwelyd i Gaerloyw gydag Ymddiriedolaeth Diwylliant Caerloyw a Strike a Light. Mae TEAM NTW yn llawn cyffro i fod yn bartner mwyaf newydd Roundhouse eleni, gan gwmpasu'r holl dalent farddoniaeth anhygoel yn Wrecsam! Cefnogir Slam Barddoniaeth The Roundhouse yn hael gan Colin a Helen David.
SUT MAE'N GWEITHIO:
2 Ysgrifennwch ddisgrifiad byr yn dweud wrthym am eich barddoniaeth a'ch angerdd am ysgrifennu ac anfonwch eich cais atom ni yn team@nationaltheatrewales.org
Bydd rownd derfynol y Slam barddoniaeth yn cael ei chynnal yn Llundain yn y Roundhouse ar 28ain Mai 2020 a bydd angen i chi fod ar gael o 4pm ar y diwrnod. Bydd yr holl deithio a llety yn cael ei dalu drosoch.
Sut fyddaf yn elwa o gymryd rhan?
Pwy yw'r beirniaid?
Bydd y beirniaid yn banel o arbenigwyr o'r diwydiant, gan gynnwys cynhyrchwyr ac artistiaid gair llafar proffesiynol.
A oes angen unrhyw sgiliau neu brofiad penodol arnaf i gymryd rhan?
Dylai fod gennych rywfaint o brofiad o ysgrifennu barddoniaeth a pherfformio a bod yn barod i gystadlu ar lefel uchel. Byddwch yn cael eich mentora drwy gydol y broses ond dylech fod yn hyderus ac yn barod i berfformio eich gwaith o flaen cynulleidfa.
Rydym yn cynnal gweithdy paratoi ar gyfer y Slam i roi sesiwn loywi i chi ar sut mae'r Slam yn gweithio a'ch paratoi i gystadlu!
Bydd Gweithdy Ysgrifennu ar gyfer Slam ar ddydd Mercher 22ain Ebrill 2020, 6-8pm yn Hwb Menter Wrecsam, bydd Gweithdy Perfformio ar gyfer Slam ar ddydd Sadwrn 2 Mai 2020 10am-12pm yn Hwb Menter Wrecsam gyda Stephanie Finegan.
© 2023 Created by National Theatre Wales.
Powered by
You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!
Join National Theatre Wales Community