Dyma gyfle i chwarae rhan mewn ffug groesholi o flaen cynulleidfa o ffug-reithwyr a chyfrannu i arbrawf ym maes cyfieithu ar y pryd. Cynhelir yr arbrawf ar 27 Ebrill 2022 ym Mhrifysgol Aberystwyth 9am-11am. Bydd gofyn i’r actorion ddysgu’r sgript fer o flaen llaw a’i pherfformio o flaen cynulleidfa. Mae’r sgript mymryn dros 3 tudalen o hyd ac mae nifer tebyg o linellau gan y cymeriadau. Bydd y perfformiad hefyd yn cael ei recordio. Bydd cyfle i’r actorion ymarfer gyda’i gilydd ar y bore cyn i’r arbrawf ddechrau. Mae’n hanfodol bod yr actorion yn rhugl yn y Gymraeg. Mae pedair rhan ar gael: Dwy Gyfreithwraig (35-45 oed), y diffynnydd (25-30 oed) a’r achwynydd (25-30) oed. Gofynnir i’r actorion wisgo’n ffurfiol, fel petaen nhw’n mynd i’r llys.
Tâl: £62.90 a hyd at £20 ar gyfer costau teithio
E-bostiwch noh6@aber.ac.uk am fwy o wybodaeth erbyn 15 Ebrill 2022.
You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!
Join National Theatre Wales Community