ON BEAR RIDGE
A National Theatre Wales and Royal Court Theatre co-production
Written by Ed Thomas
Co-directed by Vicky Featherstone & Ed Thomas
“One minute we had customers, the next minute there was no-one.”
In a lost village, blurred by redrawn borders, hidden under a crumb on the map, Bear Ridge Stores still stands.
After a hundred years, the family butchers and grocers – a place for odds and ends, contraband goods, and the last petrol pump for 30 miles – is now silent.
But owners John Daniel and Noni are going nowhere.
They are defiantly drinking the remaining whiskey and remembering good times, when everyone was on the same side and the old language shone.
Outside in the dark, a figure is making their way towards them…
One of Wales’ most celebrated writers, Ed Thomas (co-creator of Hinterland) makes a momentous return to the stage with this semi-autobiographical story about the places we leave behind, the indelible marks they make on us, and the unreliable memories we hold onto.
ROLES
The role of JOHN DANIEL has been cast.
NONI, Female, Age 50. A leading role.
Robust, authentic butcher, farmer and mother who’s lived in the hills forever and knows and breathes the land. Kind, tough, resilient, joyful, warm, wily and wise. As capable as any man of using a shotgun, she is the fabric that holds things together in a fast-changing world.
THE CAPTAIN, Male, Age 45. A leading role.
War-hardened soldier, brutal and brutalised, a physical presence, used to a position of authority but inside is struggling to hold things together. He’s haunted, vulnerable and lived with death for so long he neither fears it nor welcomes it.
IFAN WILLIAM, Male, Age 30. A fantastic supporting role.
A hard, soft, tough, vulnerable, damaged, eccentric, withdrawn slaughter man. It takes a special breed to kill.
We welcome suggestions of all ethnicities for all roles.
We will strive to meet any access requirements, at audition and at work, to ensure that everyone has equal access to this opportunity. This includes flexibility where possible for people with caring responsibilities.
Venue: Main house at the Sherman Theatre, Cardiff and the Jerwood Theatre Downstairs at the Royal Court, London
Rehearsals commence 19th August 2019, in Cardiff
Press night: 24th September 2019
Transfer to the Royal Court in the week commencing 21st October 2019
Conclusion of engagement: 23rd November 2019
Auditions will be held in Wales and London.
Please specify where you / your client is based.
National Theatre Wales Casting Policy
When possible and appropriate, NTW considers and casts performers who are Welsh, based in Wales or professionally trained in Wales.
NTW is committed to casting inclusively, promoting equality of opportunity in the arts and authentically representing Wales’ diverse communities.
To suggest yourself or a client for a role please contact Mawgaine on or before 29th April: casting@nationaltheatrewales.org
Please indicate whether you are Welsh, Wales-based or trained in Wales and let us know where you're now based, as we're auditioning in Cardiff and London.
This role has been advertised via Spotlight.
-------------------------------------------------
ON BEAR RIDGE
Cyd-gynhyrchiad gan National Theatre Wales a’r Royal Court Theatre
Wedi ei ysgrifennu gan Ed Thomas
Cyd-gynhyrchwyd gan Vicky Featherstone ac Ed Thomas
“Un munud roedd cwsmeriaid ‘da ni, y munud nesaf doedd yna’r un.”
Mewn pentref coll, wedi ei bylu gan ffiniau a ail-osodwyd, ac wedi ei guddio gan friwsionyn ar y map, saif Siop Bear Ridge o hyd.
Ar ôl canrif, mae siop y cigyddion teuluol a’r groser – y lle i gael hwn a’r llall, nwyddau sydd ddim yn hollol gyfreithiol, a’r pwmp petrol olaf am 30 milltir – bellach yn dawel.
Ond dyw’r perchnogion, John Daniel a Noni yn mynd i nunlle.
Maent yno yn yfed y whisgi sydd ar ôl yn herfeiddiol ac yn cofio’r dyddiau da, pan yr oedd pawb ar yr un ochr ac yr oedd yr heniaith yn pefrio.
Allan yn y tywyllwch, mae ffigwr ar ei ffordd tuag atynt …
Dyma ddychweliad nodedig i’r llwyfan gan un o ysgrifenwyr mwyaf nodedig Cymru, Ed Thomas (cyd-grëwr Hinterland) gyda stori lled-fywgraffyddol ynghylch y llefydd yr ydym yn eu gadael o’n hôl, y marciau annileadwy y maent yn eu gadael arnom, a’r atgofion y daliwn ein gafael arnynt hyd yn oed os nad oes modd dibynnu arnynt.
Rhannau
Mae rhan JOHN DANIEL eisoes wedi ei gastio.
NONI, Benyw, Oed 50. Rhan arweiniol.
Cadarn, cigydd o’r iawn ryw, ffermwr a mam sydd wedi byw ar y bryniau erioed ac yn adnabod a meddiannu’r tir o’i mewn. Caredig, digyfaddawd, dygn, llawen, cynnes, cyfrwys a doeth. Llawn mor abl ag unrhyw ddyn wrth ddefnyddio gwn, hi yw’r ffabrig sy’n cadw pethau ynghyd mewn byd sy’n prysur newid.
Y CAPTEN, Gwryw, Oed 45. Rhan arweiniol.
Milwr wedi ei dymheru gan ryfel, creulon ond wedi ei droi’n fwystfilaidd, presenoldeb corfforol, wedi arfer bod mewn sefyllfa awdurdodol ond mewn gwirionedd yn cael trafferth i gadw’r ddysgl yn wastad yn bersonol. Wedi ei boenydio gan ddrychiolaethau, yn teimlo’n fregus ac wedi byw gyda marwolaeth ers cyhyd fel nad yw bellach yn ei ofni na’i groesawu.
IFAN WILLIAM, Gwryw, Oed 30. Rhan gefnogol fendigedig.
Dyn caled, bregus, clwyfedig, echreiddig ac ynysig sy’n gweithio yn y lladd-dy. Mae’n cymryd rhywun arbennig i ladd.
Croesawn awgrymiadau o ran pob ethnigrwydd ar gyfer pob rhan.
Gwnawn bob ymdrech i fodloni unrhyw anghenion mynediad, yn y clyweliad ac yn ystod y cyfnod gwaith, er mwyn sicrhau bod pawb â mynediad cyfartal o ran y cyfle hwn. Mae hyn yn cynnwys hyblygrwydd lle bo hynny’n bosib o ran pobl â chyfrifoldebau gofalu.
Lleoliad: Prif awditoriwm Theatr y Sherman, Caerdydd a Theatr Jerwood i lawr llawr yn y Royal Court, Llundain
Ymarferion yn cychwyn 19eg Awst 2019, yng Nghaerdydd
Noson y wasg: 24ain Medi 2019
Trosglwyddo i’r Royal Court yn ystod yr wythnos yn dechrau 21ain Hydref 2019
Diwedd y cytundeb: 23ain Tachwedd 2019
Cynhelir clyweliadau yng Nghymru ac yn Llundain.
Os gwelwch yn dda nodwch lle yr ydych chi / lle mae eich cleient wedi ei leoli/lleoli.
Polisi Castio National Theatre Wales
Lle bo hynny’n bosib ac addas, mae NTW yn ystyried ac yn castio perfformwyr sydd yn Gymry, wedi eu lleoli yng Nghymru ynteu wedi eu hyfforddi yn broffesiynol yng Nghymru.
Mae NTW wedi ei ymrwymo ei hun i gastio yn gynhwysol, hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ac yn cynrychioli mewn ffordd ddilys gymunedau amrywiol Cymru.
Er mwyn eich cynnig eich hun ynteu un o’ch cleientiaid ar gyfer y rhan yna cysylltwch â Mawgaine cyn 29ain Ebrill: casting@nationaltheatrewales.org
Hysbysebwyd y rhannau hyn trwy Spotlight.
© 2024 Created by National Theatre Wales. Powered by
You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!
Join National Theatre Wales Community