Session notes: How do we want Welsh Theatre to be seen internationally?

What is the name of the person who called the session?
Rebecca Gould

Who attended the session? (You can pass this piece of paper round and ask people to write their name on it.)
Ben Pettite Wade, Rachel Pedley, Jamie Beary, Alison Woods, Paul Thomas, Brenna Hobson, Alison Davies, Jon Tregenna, Julia Thomas, Sean Tuan John, Rebecca Knowles, Lowri Jenkins, Julia Barry. Iwan Thomas, Claire Turner, Cath Allan, Alan Harris.

Summary of discussion: (Notes, ideas, further questions, conclusions, recommendations for actions to take, contact details of relevant people / organisations etc)
We opened by asking what can we do to shape the identity of Theatre from Wales, highlighting contact that Rebecca had with international theatres in the wake of the recent media attention about National Theatre Wales. Their question being ‘what’s going on in Wales?’. This opened up discussion about people knowing that National Theatre Wales don’t operate out of a theatre building but that they didn’t know very much else about it and the Guardian articles had provoked interest. It was suggested that it doesn’t matter what the rest of the world think- we have to make the work that is important to us. That we want to make and have the confidence to do this.

Rebecca shared the fact that Wales was behind the ‘UK’ in terms of influence in the World and that representing the 4 nations is a need. This also provoked the idea that we need to harness our pride about Wales shared outside Wales, inside Wales. We shared experiences of feeling like educators about Wales (as a country) when working internationally as artists are often met with questions and a sense of not understanding what makes Wales.
It was suggested that Wales has a different psyche to Scotland and Ireland in doing this and that the sense of ‘we gave it a go’ exists strongly within the psyche of the nation. This highlighted the need to invite international theatre to Wales to build an international sense of recognition and empathy and that if this is possible we need to evaluate what opportunities are available For international work to be received. Later in the discussion it was expressed that we have a lot of work to do within Wales to build thriving communities of people who want to go to the theatre if we are to be able to support visiting companies and promote the arts in Wales in the most positive and dynamic way. This also puts into question how this work is funded and how this may be a barrier to an international Theatre network.

Our conversation developed to consider a more cohesive international model of working, where resources and expertise are shared. This was made with particular reference to how Wales is presented in Edinburgh and praise was given to the Big in Belgium model of bringing work to the Festival. This is about working together rather than in competition. Can Wales have a similar presence? Can there be a way of making this make financial sense so that the best of Wales can thrive in Edinburgh? It was suggested that this needs to be about the quality of work, the universality of the stories we tell so that we are not restricted to telling the ‘Welsh story’ but the human story with a welsh sensibility and exceptional production values.

What is the experience of artists who are not Welsh, but live in Wales? This needs to be listened to in order to understand a far more complex and honest sense of what work is being made here. If we are funded by our government, do they then take ownership of their work? What are the dangers/merits of this? When does the work become a product? Is this risking it’s integrity? §
We discussed Wales’ attitude to Rugby on an international platform and the need to believe we can win, and not always be valiant losers. No Fit State shared their values to be world class and to refuse to fail and this resonated deeply within the discussion. It was acknowledged that if Wales is to make an impact internationally, Wales in Edinburgh needs to evolve to a more progressive model with an infrastructure that enables work we make in Wales to be shared with the world beyond Edinburgh (and that longevity is also a key concern with the building blocks to creating an international portfolio of work).

There was a question about whether this was only about funding, are there commercial avenues? There were mixed opinions on this- some of us felt that funding was a barrier, others that lack of opportunity or a lack of knowing what international opportunities are out there (or not seeing enough international work), while some questioned whether Wales should fund work that isn’t going to be of benefit to the Welsh tax payer.

We spoke about How the Welsh Media doesn’t support the Arts and this is problematic, there is more coverage for sport- with the example of “Grav’ by Owen Thomas having more coverage in the sports pages than the arts pages.
We returned to discuss how key the building of Miners halls by communities had been in supporting an identity through the arts and that this is something to be proud of- how do we share the things we are good at with the rest of the World? Leading to how brilliant we are at developing Youth Theatres in our communities that aren’t funded but exist because of the generosity of key community teachers and leader but that this is actually something that is inspiring to the rest of the world.
We also discussed the funding model in Wales for touring outside of Wales in more detail and believe that this should be considered.
It was also mentioned that we should share models of community engagement with the rest of the world and be proud of this achievement.

We need to question what we really mean by ‘audience development’ and interrogate this so that it doesn’t become meaningless but feeds into a thriving theatre in Wales.

Rhai syniadau ynghylch cofnodi eich sesiwn

Beth yw teitl eich sesiwn?

Sut yr ydym am i'r theatr Gymreig gael ei gweld yn rhyngwladol?

 

Beth yw enw'r person a alwodd y sesiwn?

Rebecca Gould

 Pwy ddaeth i'r sesiwn? (Gallwch basio'r darn hwn o bapur o gwmpas a gofyn i bobl ysgrifennu eu henwau arno.)

Ben Pettite Wade, Rachel Pedley, Jamie Beary, Alison Woods, Paul Thomas, Brenna Hobson, Alison Davies, Jon Tregenna, Julia Thomas, Sean Tuan John, Rebecca Knowles, Lowri Jenkins, Julia Barry. Iwan Thomas, Claire Turner, Cath Allan, Alan Harris.

 Crynodeb o'r drafodaeth: (Nodiadau, syniadau, cwestiynau, casgliadau, argymhellion ar gyfer camau i'w cymryd, manylion cyswllt pobl/sefydliadau perthnasol ac ati)

Agorwyd y drafodaeth drwy ofyn beth allwn ei wneud i lunio hunaniaeth theatr o Gymru, gan dynnu sylw at gyswllt yr oedd Rebecca wedi'i gael â theatrau rhyngwladol yn sgîl sylw diweddar yn y cyfryngau am National Theatre Wales. Eu cwestiwn oedd 'beth sy'n digwydd yng Nghymru?'. Roedd hyn wedi agor trafodaeth am bobl yn gwybod nad yw National Theatre Wales yn gweithio allan o adeilad theatr ond nad oeddent yn gwybod llawer iawn arall amdani ac roedd yr erthygl yn y Guardian wedi ysgogi diddordeb. Awgrymwyd nad oes ots beth mae gweddill y byd yn ei feddwl - mae'n rhaid i ni wneud y gwaith sy'n bwysig i ni. Yr hyn yr ydym ni am ei wneud a chael yr hyder i wneud hyn.

Rhannodd Rebecca y ffaith bod Cymru y tu ôl i'r 'DU' o ran dylanwadu ar y byd a bod angen cynrychioli'r pedair gwlad. Roedd hyn hefyd wedi ysgogi'r syniad bod angen inni harneisio ein balchder dros Gymru a rennir y tu allan i Gymru, y tu mewn i Gymru. Rhannwyd ein profiadau o deimlo fel addysgwyr am Gymru (fel gwlad) wrth weithio'n rhyngwladol gan fod artistiaid yn aml yn wynebu cwestiynau a synnwyr o beidio â deall beth yw Cymru.

Awgrymwyd bod gan Gymru feddylfryd wahanol i Iwerddon a'r Alban wrth wneud hyn a bod yr ymdeimlad o 'roesom gynnig arni' yn bodoli'n gryf ym meddylfryd y genedl. Tynnodd hyn sylw at yr angen i wahodd theatr ryngwladol i Gymru i feithrin synnwyr rhyngwladol o gydnabyddiaeth ac empathi ac os yw hynny'n bosibl, fod angen inni werthuso pa gyfleoedd sydd ar gael ar gyfer cyflawni gwaith rhyngwladol.  Yn ddiweddarach yn ystod y drafodaeth, mynegwyd bod gennym lawer o waith i'w wneud yng Nghymru i adeiladu cymunedau ffyniannus o bobl sydd am fynd i'r theatr os ydym i allu cefnogi cwmnïau sy'n ymweld a hybu'r celfyddydau yng Nghymru yn y ffordd fwyaf cadarnhaol a deinamig. Mae hyn hefyd yn codi cwestiwn ynghylch sut ariennir y gwaith hwn a sut y gall hyn fod yn rhwystr i rwydwaith theatr rhyngwlado.

Datblygodd ein sgwrs i ystyried model rhyngwladol mwy cydlynol o weithio, lle rhennir adnoddau ac arbenigedd. Gwnaed hyn gan gyfeirio'n benodol at sut y cyflwynir Cymru yng Nghaeredin a rhoddwyd canmoliaeth i'r model Big in Belgium o ddod â gwaith i'r ŵyl. Mae hyn yn ymwneud â gweithio gyda'n gilydd yn hytrach nag mewn cystadleuaeth. A all Cymru gael presenoldeb tebyg? A all fod ffordd o sicrhau bod hyn yn gwneud synnwyr ariannol fel y gall y gorau o Gymru ffynnu yng Nghaeredin? Awgrymwyd bod angen i hyn fod am ansawdd y gwaith,  cyffredinolrwydd y straeon yr ydym yn eu dweud fel nad ydym wedi'n cyfyngu i adrodd y 'stori Gymreig' ond y stori ddynol gydag ymdeimlad Cymreig a gwerthoedd cynhyrchu eithriadol.

Beth yw profiad artistiaid nad ydynt yn Gymru, ond sy'n byw yng Nghymru? Mae angen gwrando ar hyn er mwyn deall ymdeimlad llawer mwy cymhleth a gonest o ba waith a wneir yma. Os ydym yn cael ein cyllido gan ein llywodraeth, a ydyn nhw wedyn yn cymryd perchnogaeth o'r gwaith? Beth yw peryglon/rhinweddau hyn? Pa bryd y daw y gwaith yn gynnyrch? A yw hyn yn peryglu ei uniondeb?

Buom yn trafod agwedd Cymru at rygbi ar lwyfan ryngwladol a'r angen i gredu y gallwn ennill, ac nid bob amser yn colli'n ddewr. Rhannodd No Fit State eu gwerthoedd i fod o'r radd flaenaf a  gwrthod methu ac roedd hyn yn sicr yn canu cloch yn y drafodaeth. Cydnabuwyd os yw Cymru am gael effaith rhyngwladol, mae angen i Gymru yng Nghaeredin esblygu yn fodel mwy blaengar gyda seilwaith sy'n galluogi'r gwaith rydym yn ei wneud yng Nghymru i gael ei rannu gyda'r byd y tu hwnt i Gaeredin (a bod hirhoedledd yn allweddol hefyd gyda'r sylfeini i greu portffolio gwaith rhyngwladol).

Cafwyd cwestiwn ynghylch p'un a oedd hyn yn ymwneud â chyllid yn unig, a oes llwybrau masnachol? Cymysg oedd y farn ar hyn - roedd rhai ohonom yn teimlo bod cylid yn rhwystr, eraill bod diffyg cyfle neu ddiffyg gwybod pa gyfleoedd rhyngwladol sydd ar gael (neu beidio â gweld digon o waith rhyngwladol), tra bod rhai yn cwestiynu p'un a ddylai Cymru gyllido gwaith na fydd o fudd i drethdalwyr Cymru.

Buom yn siarad am sut nad yw cyfryngau Cymru yn cefnogi'r celfyddydau a bod hyn yn achosi problemau, ceir rhagor o sylw i chwaraeon – gyda'r enghraifft o "Grav' gan Owen Thomas yn cael mwy o sylw yn y tudalennau chwaraeon nag y tudalennau celfyddydau.

Daethom yn ôl i drafod pa mor allweddol yr oedd adeiladu neuaddau glowyr gan gymunedau wrth gefnogi hunaniaeth drwy'r celfyddydau a bod hyn yn rhywbeth i fod yn falch ohono - sut ydym yn rhannu'r pethau yr ydym yn dda yn eu gwneud gyda gweddill y byd? Gan arwain at pa mor wych yr ydym yn datblygu theatrau ieuenctid yn ein cymunedau nad ydynt wedi'u cyllido ond sy'n bodoli oherwydd haelioni athrawon ac arweinwyr cymunedol allweddol a bod hyn mewn gwirionedd yn rhywbeth sydd yn ysbrydoledig i weddill y byd.

Hefyd, trafodwyd y model cyllido yng Nghymru ar gyfer teithio y tu allan i Gymru mewn mwy o fanylder a chredwyd y dylid ystyried hyn.

Soniwyd hefyd y dylem rannu modelau ymgysylltu cymunedol â gweddill y byd a bod yn falch o'r llwyddiant hwn.

Mae angen inni holi beth yr ydym yn ei olygu mewn gwirionedd gan 'datblygu cynulleidfa' a herio hyn fel nad yw'n dod yn ddiystyr ond yn bwydo i mewn i theatr ffyniannus yng Nghymru.

 

DS - Cyhoeddir yr adroddiad hwn ar wefan NTW (gan gynnwys unrhyw gyfeiriadau e-bost a manylion cyswllt yr ydych yn eu cynnwys ynddo). Os hoffech chi i NTW drosglwyddo unrhyw gwestiynau y cânt am yr adroddiad hwn, nodwch eich cyfeiriad e-bost yma (ni fydd eich cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi na'i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall).

Views: 120

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service